Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:37-50 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

37. A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt.

38. Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a'i hysa.

39. Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.

40. Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni'th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.

41. Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.

42. Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

43. Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

44. Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon.

45. A'r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

46. A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

47. Oblegid na wasanaethaist yr Arglwydd dy Dduw mewn llawenydd, ac mewn hyfrydwch calon, am amldra pob dim:

48. Am hynny y gwasanaethi di dy elynion, y rhai a ddenfyn yr Arglwydd yn dy erbyn, mewn newyn, ac mewn syched, ac mewn noethni, ac mewn eisiau pob dim; ac efe a ddyry iau haearn ar dy wddf, hyd oni ddinistrio efe dydi.

49. Yr Arglwydd a ddwg i'th erbyn genedl o bell, sef o eithaf y ddaear, mor gyflym ag yr eheda yr eryr; cenedl yr hon ni ddeelli ei hiaith;

50. Cenedl wyneb‐galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr hynafgwr, ac ni bydd raslon i'r llanc.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28