Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:34-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

34. A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

35. Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun.

36. Yr Arglwydd a'th ddwg di, a'th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na'th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.

37. A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt.

38. Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a'i hysa.

39. Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.

40. Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni'th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.

41. Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.

42. Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

43. Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28