Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:29-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

29. Byddi hefyd yn ymbalfalu ganol dydd, fel yr ymbalfalai y dall yn y tywyllwch; ac ni lwyddi yn dy ffyrdd: a diau y byddi orthrymedig ac anrheithiedig byth, ac ni bydd a'th waredo.

30. Ti a ymgredi â gwraig, a gŵr arall a gydorwedd â hi: ti a adeiledi dŷ, ac ni thrigi ynddo: ti a blenni winllan, ac ni chesgli ei ffrwyth.

31. Dy ych a leddir yn dy olwg, ac ni fwytei ohono: dy asyn a ddygir trwy drais o flaen dy wyneb, ac ni ddaw adref atat: dy ddefaid a roddir i'th elynion, ac ni bydd i ti achubydd.

32. Dy feibion a'th ferched a roddir i bobl eraill, a'th lygaid yn gweled, ac yn pallu amdanynt ar hyd y dydd; ac ni bydd gallu ar dy law.

33. Ffrwyth dy dir a'th holl lafur a fwyty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymedig a drylliedig bob amser:

34. A byddi wallgofus, gan weledigaeth dy lygaid yr hon a welych.

35. Yr Arglwydd a'th dery di â chornwyd drygionus, yn y gliniau ac yn yr esgeiriau, yr hwn ni ellir ei iacháu, o wadn dy droed hyd dy gorun.

36. Yr Arglwydd a'th ddwg di, a'th frenin a osodych arnat, at genedl nid adnabuost ti na'th dadau di; a gwasanaethi yno dduwiau dieithr, pren a maen.

37. A byddi yn syndod, yn ddihareb, ac yn watwargerdd, ymhlith yr holl bobloedd y rhai yr arwain yr Arglwydd di atynt.

38. Had lawer a ddygi allan i'r maes, ac ychydig a gesgli: oherwydd y locust a'i hysa.

39. Gwinllannoedd a blenni, ac a goleddi; ond gwin nid yfi, ac ni chesgli y grawnwin: canys pryfed a'u bwyty.

40. Olewydd a fydd i ti trwy dy holl derfynau, ac ag olew ni'th irir: oherwydd dy olewydden a ddihidla.

41. Meibion a merched a genhedli, ac ni byddant i ti: oherwydd hwy a ânt i gaethiwed.

42. Dy holl brennau a ffrwythau dy dir a ddifa y locust.

43. Y dieithr a fyddo yn dy fysg a ddring arnat yn uchel uchel; a thi a ddisgynni yn isel isel.

44. Efe a fenthycia i ti, a thi ni fenthyci iddo ef: efe a fydd yn ben, a thi a fyddi yn gynffon.

45. A'r holl felltithion hyn a ddaw arnat, ac a'th erlidiant, ac a'th oddiweddant, hyd oni'th ddinistrier; am na wrandewaist ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ei orchmynion a'i ddeddfau ef, y rhai a orchmynnodd efe i ti.

46. A byddant yn arwydd ac yn rhyfeddod arnat ti, ac ar dy had hyd byth.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28