Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 28:15-25 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y'th oddiweddant.

16. Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes.

17. Melltigedig fydd dy gawell a'th does di.

18. Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.

19. Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan.

20. Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a'th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y'm gwrthodaist i.

21. Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.

22. Yr Arglwydd a'th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a'th ddilynant nes dy ddifetha.

23. Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a'r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn.

24. Yr Arglwydd a rydd yn lle glaw dy ddaear, lwch a lludw: o'r nefoedd y disgyn arnat, hyd oni'th ddinistrier.

25. Yr Arglwydd a wna i ti syrthio o flaen dy elynion: trwy un ffordd yr ei di yn eu herbyn hwynt, a thrwy saith o ffyrdd y ffoi o'u blaen hwynt: a thi a fyddi ar wasgar dros holl deyrnasoedd y ddaear.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 28