13. A'r Arglwydd a'th wna di yn ben, ac nid yn gynffon; hefyd ti a fyddi yn uchaf yn unig, ac nid yn isaf: os gwrandewi ar orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw, i'w cadw, ac i'w gwneuthur;
14. Ac heb gilio ohonot oddi wrth yr holl eiriau yr wyf fi yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i'r tu deau neu i'r tu aswy, gan fyned ar ôl duwiau dieithr, i'w gwasanaethu hwynt.
15. A bydd, oni wrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, gan gadw a gwneuthur ei holl orchmynion ef a'i ddeddfau, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i ti heddiw; y daw arnat yr holl felltithion hyn, ac y'th oddiweddant.
16. Melltigedig fyddi di yn y ddinas, a melltigedig yn y maes.
17. Melltigedig fydd dy gawell a'th does di.
18. Melltigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.
19. Melltigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a melltigedig yn dy fynediad allan.
20. Yr Arglwydd a ddenfyn arnat ti felltith, trallod, a cherydd, yn yr hyn oll y dodych dy law arno, ac yn yr hyn a wnelych; nes dy ddinistrio a'th ddifetha di yn gyflym; am ddrygioni dy weithredoedd yn y rhai y'm gwrthodaist i.
21. Yr Arglwydd a wna i haint lynu wrthyt, nes iddo dy ddifa oddi ar y tir yr ydwyt ti yn myned iddo i'w feddiannu.
22. Yr Arglwydd a'th dery â darfodedigaeth ac â chryd poeth, ac â llosgfa, ac â gwres, ac â chleddyf, ac â diflaniad, ac â mallter; a hwy a'th ddilynant nes dy ddifetha.
23. Dy nefoedd hefyd y rhai sydd uwch dy ben a fyddant yn bres, a'r ddaear yr hon sydd oddi tanat yn haearn.