1. Ac os gan wrando y gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw, i gadw ac i wneuthur ei holl orchmynion ef, y rhai yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti heddiw; yna yr Arglwydd dy Dduw a'th esyd yn uwch na holl genhedloedd y ddaear.
2. A'r holl fendithion hyn a ddaw arnat, ac a'th oddiweddant, os gwrandewi ar lais yr Arglwydd dy Dduw.
3. Bendigedig fyddi di yn y ddinas, a bendigedig yn y maes.
4. Bendigedig fydd ffrwyth dy fru, a ffrwyth dy dir, a ffrwyth dy anifail di, cynnydd dy wartheg, a diadellau dy ddefaid.
5. Bendigedig fydd dy gawell a'th does di.
6. Bendigedig fyddi di yn dy ddyfodiad i mewn, a bendigedig yn dy fynediad allan.
7. Rhydd yr Arglwydd dy elynion a ymgodant i'th erbyn yn lladdedig o'th flaen di: trwy un ffordd y deuant i'th erbyn, a thrwy saith o ffyrdd y ffoant o'th flaen.
8. Yr Arglwydd a orchymyn fendith arnat ti, yn dy drysordai, ac yn yr hyn oll y dodych dy law arno; ac a'th fendithia yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.
9. Yr Arglwydd a'th gyfyd di yn bobl sanctaidd iddo ei hun, megis y tyngodd wrthyt, os cedwi orchmynion yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef.