Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 22:16-30 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. A dyweded tad y llances wrth yr henuriaid, Fy merch a roddais i'r gŵr hwn yn wraig, a'i chasáu y mae efe.

17. Ac wele, efe a gododd iddi anair, gan ddywedyd, Ni chefais yn dy ferch forwyndod; ac fel dyma arwyddion morwyndod fy merch. Yna lledant y dilledyn yng ngŵydd henuriaid y ddinas.

18. A henuriaid y ddinas honno a gymerant y gŵr, ac a'i cosbant ef.

19. A hwy a'i dirwyant ef mewn can sicl o arian, ac a'u rhoddant hwynt i dad y llances; o achos iddo ddwyn enw drwg ar y forwyn o Israel: a bydd hi yn wraig iddo; ac ni ddichon ei gyrru ymaith yn ei holl ddyddiau.

20. Ond os gwir fydd y peth, ac na chafwyd arwyddion morwyndod yn y llances:

21. Yna y dygant y llances at ddrws tŷ ei thad, a dynion ei dinas a'i llabyddiant hi â meini, oni byddo farw; am iddi wneuthur ffolineb yn Israel, gan buteinio yn nhŷ ei thad: a thi a dynni ymaith y drwg o'th fysg.

22. O cheffir gŵr yn gorwedd gyda gwraig briodol â gŵr; byddant feirw ill dau, sef y gŵr a orweddodd gyda'r wraig, a'r wraig hefyd: felly y tynni ymaith ddrwg o Israel.

23. O bydd llances o forwyn wedi ei dyweddïo i ŵr, a chael o ŵr hi mewn dinas, a gorwedd gyda hi;

24. Yna y dygwch hwynt ill dau i borth y ddinas honno, ac a'u llabyddiwch hwynt â meini, fel y byddont feirw: y llances, oblegid na waeddodd, a hithau yn y ddinas; a'r gŵr, oherwydd iddo ddarostwng gwraig ei gymydog: felly ti a dynni ymaith y drygioni o'th fysg.

25. Ond os mewn maes y cafodd y gŵr y llances wedi ei dyweddïo, a'i threisio o'r gŵr, a gorwedd gyda hi; yna bydded farw y gŵr a orweddodd gyda hi yn unig.

26. Ond i'r llances ni chei wneuthur dim; nid oes yn y llances bechod yn haeddu marwolaeth: oherwydd megis y cyfyd gŵr yn erbyn ei gymydog, a'i ddieneidio ef, yr un modd y mae y peth hyn:

27. Oblegid yn y maes y cafodd efe hi: gwaeddodd y llances oedd wedi ei dyweddïo; ac nid oedd achubydd iddi.

28. O chaiff gŵr lances o forwyn, heb ei dyweddïo, ac ymaflyd ynddi, a gorwedd gyda hi, a'u dala hwynt:

29. Yna y rhydd y gŵr a orweddodd gyda hi, i dad y llances, ddeg a deugain o arian; ac iddo y bydd yn wraig, am iddo ei darostwng hi: ni ddichon efe ei gyrru hi ymaith yn ei holl ddyddiau.

30. Na chymered neb wraig ei dad, ac na ddinoethed odre ei dad.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 22