Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20:8-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i'w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.

9. A bydded, pan ddarffo i'r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

10. Pan nesaech at ddinas i ryfela yn ei herbyn, cyhoedda iddi heddwch.

11. A bydded, os heddwch a etyb hi i ti, ac agoryd i ti; yna bydded i'r holl bobl a gaffer ynddi, fod i ti dan deyrnged, a'th wasanaethu.

12. Ac oni heddycha hi â thi, ond gwneuthur rhyfel â thi; yna gwarchae arni hi.

13. Pan roddo yr Arglwydd dy Dduw hi yn dy law di, taro ei holl wrywiaid â min y cleddyf.

14. Yn unig y benywaid, a'r plant, a'r anifeiliaid, a phob dim a'r a fyddo yn y ddinas, sef ei holl ysbail, a ysbeili i ti: a thi a fwynhei ysbail dy elynion, yr hwn a rydd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

15. Felly y gwnei i'r holl ddinasoedd pell iawn oddi wrthyt, y rhai nid ydynt o ddinasoedd y cenhedloedd hyn.

16. Ond o ddinasoedd y bobloedd hyn, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti yn etifeddiaeth, na chadw un enaid yn fyw:

17. Ond gan ddifrodi difroda hwynt; sef yr Hethiaid, a'r Amoriaid, y Canaaneaid, a'r Pheresiaid, yr Hefiaid, a'r Jebusiaid; megis y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti.

18. Fel na ddysgont i chwi wneuthur yn ôl eu holl ffieidd‐dra hwynt, y rhai a wnaethant i'w duwiau, a phechu ohonoch yn erbyn yr Arglwydd eich Duw.

19. Pan warchaeech ar ddinas lawer o ddyddiau, gan ryfela yn ei herbyn i'w hennill hi, na ddifetha ei choed hi, gan daro bwyell arnynt: canys ohonynt y bwytei; na thor dithau hwynt i lawr, (oherwydd bywyd dyn yw pren y maes,) i'w gosod yn y gwarchglawdd.

20. Yn unig y pren y gwyddost nad pren ymborth yw, hwnnw a ddifethi ac a dorri: ac a adeiledi warchglawdd yn erbyn y ddinas fydd yn gwneuthur rhyfel â thi, hyd oni orchfyger hi.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 20