Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 20:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: oherwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyda thi, yr hwn a'th ddug di i fyny o dir yr Aifft.

2. A bydd, pan nesaoch i'r frwydr, yna ddyfod o'r offeiriad, a llefaru wrth y bobl,

3. A dywedyd wrthynt, Clyw, Israel: Yr ydych chwi yn nesáu heddiw i'r frwydr yn erbyn eich gelynion: na feddalhaed eich calon, nac ofnwch, na synnwch, ac na ddychrynwch rhagddynt.

4. Canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn myned gyda chwi, i ryfela â'ch gelynion trosoch chwi, ac i'ch achub chwi.

5. A'r llywiawdwyr a lefarant wrth y bobl, gan ddywedyd, Pa ŵr sydd a adeiladodd dŷ newydd, ac nis cysegrodd ef? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei gysegru ef.

6. A pha ŵr sydd a blannodd winllan, ac nis mwynhaodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw yn y frwydr, ac i ŵr arall ei mwynhau hi.

7. A pha ŵr sydd a ymgredodd â gwraig, ac ni chymerodd hi? eled a dychweled i'w dŷ, rhag ei farw mewn rhyfel, ac i ŵr arall ei chymryd hi.

8. Y llywiawdwyr hefyd a chwanegant lefaru wrth y bobl, ac a ddywedant, Pa ŵr sydd ofnus a meddal galon? eled a dychweled i'w dŷ, fel na lwfrhao efe galon ei frawd megis ei galon yntau.

9. A bydded, pan ddarffo i'r llywiawdwyr lefaru wrth y bobl, osod ohonynt dywysogion y lluoedd yn ben ar y bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 20