Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 19:4-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Dyma gyfraith y llofrudd, yr hwn a ffy yno, i fyw: yr hwn a drawo ei gymydog heb wybod, ac yntau heb ei gasáu ef o'r blaen;

5. Megis pan elo un gyda'i gymydog i'r coed i gymynu pren, ac a estyn ei law â'r fwyell i dorri y pren, a syrthio yr haearn o'r menybr, a chyrhaeddyd ei gymydog, fel y byddo farw; efe a gaiff ffoi i un o'r dinasoedd hyn, a byw:

6. Rhag i ddialydd y gwaed ddilyn ar ôl y llofrudd, a'i galon yn llidiog, a'i oddiweddyd, am fod y ffordd yn hir, a'i daro ef yn farw, er nad oedd ynddo ef haeddedigaeth marwolaeth, am nad oedd efe yn ei gasáu ef o'r blaen.

7. Am hynny yr ydwyf yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Tair dinas a neilltui i ti.

8. A phan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn, fel y tyngodd wrth dy dadau, a rhoddi i ti yr holl dir a addawodd efe ei roddi wrth dy dadau;

9. Os cedwi y gorchmynion hyn oll, gan wneuthur yr hyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti heddiw, i garu yr Arglwydd dy Dduw, a rhodio yn ei ffyrdd ef bob amser; yna y chwanegi i ti dair dinas hefyd at y tair hyn:

10. Fel na ollynger gwaed gwirion o fewn dy dir, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti yn etifeddiaeth; ac na byddo gwaed i'th erbyn.

11. Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o'r dinasoedd hyn:

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 19