11. Ond os bydd gŵr yn casáu ei gymydog, ac yn cynllwyn iddo, a chodi yn ei erbyn, a'i ddieneidio fel y byddo farw, a ffoi i un o'r dinasoedd hyn:
12. Yna anfoned henuriaid ei ddinas ef, a chymerant ef oddi yno, a rhoddant ef yn llaw dialydd y gwaed, fel y byddo farw.
13. Nac arbeded dy lygad ef, ond tyn ymaith affaith gwaed gwirion o Israel, fel y byddo daioni i ti.
14. Na symud derfyn dy gymydog, yr hwn a derfynodd y rhai a fu o'r blaen, o fewn dy etifeddiaeth yr hon a feddienni, yn y tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti i'w feddiannu.
15. Na choded un tyst yn erbyn neb am ddim anwiredd, neu ddim pechod, o'r holl bechodau a becho efe: wrth dystiolaeth dau o dystion, neu wrth dystiolaeth tri o dystion, y bydd safadwy y peth.
16. Os cyfyd gau dyst yn erbyn neb, gan dystiolaethu bai yn ei erbyn ef;
17. Yna safed y ddau ddyn y mae yr ymrafael rhyngddynt gerbron yr Arglwydd, o flaen yr offeiriaid a'r barnwyr a fyddo yn y dyddiau hynny.
18. Ac ymofynned y barnwyr yn dda: ac os y tyst fydd dyst ffals, ac a dystiolaetha ar gam yn erbyn ei frawd;
19. Yna gwnewch iddo fel yr amcanodd wneuthur i'w frawd: a thyn ymaith y drwg o'th fysg.
20. A'r lleill a glywant, ac a ofnant, ac ni chwanegant wneuthur mwy yn ôl y peth drygionus hyn yn dy blith.
21. Ac nac arbeded dy lygad: bydded einioes am einioes, llygad am lygad, dant am ddant, llaw am law, troed am droed.