1. Ni bydd i'r offeiriaid, i'r Lefiaid, i holl lwyth Lefi, ran nac etifeddiaeth ynghyd ag Israel: ebyrth tanllyd yr Arglwydd, a'i etifeddiaeth ef, a fwytânt hwy.
2. Am hynny etifeddiaeth ni bydd iddynt ymhlith eu brodyr: yr Arglwydd yw eu hetifeddiaeth hwy, megis ag y dywedodd wrthynt.
3. A hyn fydd defod yr offeiriaid oddi wrth y bobl, oddi wrth y rhai a aberthant aberth, pa un bynnag ai eidion ai dafad; rhoddant i'r offeiriad yr ysgwyddog a'r ddwy ên, a'r boten.
4. Blaenffrwyth dy ŷd, dy win, a'th olew, a blaenffrwyth cnaif dy ddefaid, a roddi iddo ef.
5. Canys dewisodd yr Arglwydd dy Dduw ef o'th holl lwythau di, i sefyll i wasanaethu yn enw yr Arglwydd, efe a'i feibion yn dragywydd.
6. A phan ddelo Lefiad o un o'th byrth di yn holl Israel, lle y byddo efe yn ymdaith, a dyfod â holl ddymuniad ei galon i'r lle a ddewiso yr Arglwydd;
7. Yna gwasanaethed efe yn enw yr Arglwydd ei Dduw, megis ei holl frodyr y Lefiaid, y rhai sydd yn sefyll yno gerbron yr Arglwydd.
8. Rhan am ran a fwytânt, heblaw gwerth yr hyn sydd yn dyfod oddi wrth ei dadau.
9. Pan elych di i'r tir y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti, na ddysg wneuthur yn ôl ffieidd‐dra'r cenhedloedd hynny.
10. Na chaffer ynot a wnelo i'w fab, neu i'w ferch, fyned trwy y tân; neu a arfero ddewiniaeth, na phlanedydd, na daroganwr, na hudol,
11. Na swynwr swynion, nac a geisio wybodaeth gan gonsuriwr, neu frudiwr, nac a ymofynno â'r meirw:
12. Oherwydd ffieidd‐dra gan yr Arglwydd yw pawb a wnelo hyn; ac o achos y ffieidd‐dra hyn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu gyrru hwynt allan o'th flaen di.
13. Bydd berffaith gyda'r Arglwydd dy Dduw.