7. Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a'r bore y dychweli, ac yr ei i'th babellau.
8. Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9. Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo'r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo'r saith wythnos.
10. A chadw ŵyl yr wythnosau i'r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
11. A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo.
12. Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13. Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a'th win.
14. A llawenycha yn dy ŵyl, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, y rhai fyddant o fewn dy byrth.
15. Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.
16. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw.
17. Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.
18. Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.
19. Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.