Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 16:15-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Saith niwrnod y cedwi ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd: canys yr Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn dy holl gnwd, ac yn holl waith dy ddwylo; am hynny bydd dithau lawen.

16. Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwryw ohonot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar ŵyl y bara croyw, ac ar ŵyl yr wythnosau, ac ar ŵyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw.

17. Pob un yn ôl rhodd ei law, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw yr hon a roddes efe i ti.

18. Gwna i ti farnwyr a blaenorion yn dy holl byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti trwy dy lwythau; a barnant hwy y bobl â barn gyfiawn.

19. Na ŵyra farn, ac na chydnebydd wynebau; na dderbyn wobr chwaith: canys gwobr a ddalla lygaid y doethion, ac a ŵyra eiriau y cyfiawn.

20. Cyfiawnder, cyfiawnder a ddilyni; fel y byddych fyw, ac yr etifeddych y tir yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei roddi i ti.

21. Na phlanna i ti lwyn o neb rhyw goed gerllaw allor yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a wnei i ti.

22. Ac na chyfod i ti golofn; yr hyn sydd gas gan yr Arglwydd dy Dduw.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 16