1. Cadw y mis Abib, a chadw Basg i'r Arglwydd dy Dduw: canys o fewn y mis Abib y dug yr Arglwydd dy Dduw di allan o'r Aifft, o hyd nos.
2. Abertha dithau yn Basg i'r Arglwydd dy Dduw, o ddefaid a gwartheg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef yno.
3. Na fwyta fara lefeinllyd gydag ef: saith niwrnod y bwytei gydag ef fara croyw, sef bara cystudd: (canys ar ffrwst y daethost allan o dir yr Aifft:) fel y cofiech ddydd dy ddyfodiad allan o dir yr Aifft holl ddyddiau dy einioes.
4. Ac na weler gennyt surdoes yn dy holl derfynau saith niwrnod; ac nac arhoed dros nos hyd y bore ddim o'r cig a aberthaist yn yr hwyr, ar y dydd cyntaf.
5. Ni elli aberthu y Pasg o fewn yr un o'th byrth, y rhai y mae yr Arglwydd dy Dduw yn eu rhoddi i ti:
6. Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo; yno yr aberthi y Pasg yn yr hwyr, ar fachludiad haul, y pryd y daethost allan o'r Aifft.
7. Yna y rhosti, ac y bwytei ef, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw: a'r bore y dychweli, ac yr ei i'th babellau.
8. Chwe diwrnod y bwytei fara croyw: ac ar y seithfed dydd y mae uchel ŵyl i'r Arglwydd dy Dduw; ni chei wneuthur gwaith ynddo.
9. Cyfrif i ti saith wythnos: pan ddechreuo'r cryman ar yr ŷd, y dechreui rifo'r saith wythnos.
10. A chadw ŵyl yr wythnosau i'r Arglwydd dy Dduw, ag offrwm gwirfodd dy law, yr hwn a roddi, megis y'th fendithio yr Arglwydd dy Dduw.
11. A llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw, ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo o fewn dy byrth, a'r dieithr, a'r amddifad, a'r weddw, sydd yn dy fysg, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw i drigo o'i enw ef ynddo.
12. Cofia hefyd mai caethwas fuost yn yr Aifft: a chadw a gwna y deddfau hyn.
13. Cadw i ti ŵyl y pebyll saith niwrnod, wedi i ti gasglu dy ŷd a'th win.