Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 15:11-23 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

11. Canys ni dderfydd y tlawd o ganol y tir: am hynny yr ydwyf fi yn gorchymyn i ti, gan ddywedyd, Gan agoryd agor dy law i'th frawd, i'th anghenus ac i'th dlawd, yn dy dir.

12. Os gwerthir dy frawd, Hebread, neu Hebrees, i ti, a'th wasanaethu chwe blynedd; y seithfed flwyddyn gollwng ef yn rhydd oddi wrthyt.

13. A phan ollyngech ef yn rhydd oddi wrthyt, na ollwng ef yn wag:

14. Gan lwytho llwytha ef o'th braidd, ac o'th ysgubor, ac o'th winwryf: o'r hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw, dod iddo.

15. A chofia mai gwas fuost yn nhir yr Aifft, a'th waredu o'r Arglwydd dy Dduw: am hynny yn ydwyf yn gorchymyn y peth hyn i ti heddiw.

16. Ond os dywed wrthyt, Nid af allan oddi wrthyt; am ei fod yn dy hoffi di a'th dŷ; oherwydd bod yn dda arno ef gyda thi:

17. Yna cymer fynawyd, a dod trwy ei glust ef, ac yn y ddôr; a bydded yn was i ti byth: felly hefyd y gwnei i'th forwyn.

18. Na fydded caled gennyt ei ollwng ef yn rhydd oddi wrthyt, canys gwasanaethodd di werth dau gyflog gweinidog, chwe blynedd: a'r Arglwydd dy Dduw a'th fendithia yn yr hyn oll a wnelych.

19. Pob cyntaf‐anedig yr hwn a enir o'th wartheg, neu o'th ddefaid, yn wryw, a gysegri di i'r Arglwydd dy Dduw: na weithia â chyntaf‐anedig dy ychen, ac na chneifia gyntaf‐anedig dy ddefaid.

20. Gerbron yr Arglwydd dy Dduw y bwytei ef bob blwyddyn, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd, ti a'th deulu.

21. Ond os bydd anaf arno, os cloff neu ddall fydd, neu arno ryw ddrwg anaf arall; nac abertha ef i'r Arglwydd dy Dduw.

22. O fewn dy byrth y bwytei ef: yr aflan a'r glân ynghyd a'i bwyty, megis yr iwrch, ac megis y carw.

23. Eto na fwyta ei waed ef; tywallt hwnnw ar y ddaear fel dwfr.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 15