Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 13:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Pan godo yn dy fysg di broffwyd, neu freuddwydydd breuddwyd, (a rhoddi i ti arwydd neu ryfeddod,

2. A dyfod i ben o'r arwydd, neu'r rhyfeddod a lefarodd efe wrthyt,) gan ddywedyd, Awn ar ôl duwiau dieithr, (y rhai nid adwaenost,) a gwasanaethwn hwynt;

3. Na wrando ar eiriau y proffwyd hwnnw, neu ar y breuddwydydd breuddwyd hwnnw: canys yr Arglwydd eich Duw sydd yn eich profi chwi, i wybod a ydych yn caru'r Arglwydd eich Duw â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid.

4. Ar ôl yr Arglwydd eich Duw yr ewch, ac ef a ofnwch, a'i orchmynion ef a gedwch, ac ar ei lais ef y gwrandewch, ac ef a wasanaethwch, ac wrtho ef y glynwch.

5. A'r proffwyd hwnnw, neu y breuddwydydd breuddwyd hwnnw, a roddir i farwolaeth; canys llefarodd i'ch troi chwi oddi wrth yr Arglwydd eich Duw, yr hwn a'ch dug chwi allan o dir yr Aifft, ac a'ch gwaredodd chwi o dŷ y caethiwed, i'th wthio di allan o'r ffordd, yr hon y gorchmynnodd yr Arglwydd dy Dduw i ti rodio ynddi. Felly y tynni ymaith y drwg o'th fysg.

6. Os dy frawd, mab dy fam, neu dy fab dy hun, neu dy ferch, neu wraig dy fynwes, neu dy gyfaill, yr hwn sydd fel dy enaid dy hun, a'th annog yn ddirgel, gan ddywedyd, Awn a gwasanaethwn dduwiau dieithr, y rhai nid adnabuost ti, na'th dadau;

7. Sef rhai o dduwiau y bobl sydd o'ch amgylch chwi, yn agos atat, neu ymhell oddi wrthyt, o un cwr i'r tir hyd gwr arall y tir:

8. Na chydsynia ag ef, ac na wrando arno, ac nac arbeded dy lygad ef, ac nac eiriach ef, ac na chela arno:

9. Ond gan ladd lladd ef; bydded dy law di arno ef yn gyntaf, i'w roddi i farwolaeth, a llaw yr holl bobl wedi hynny.

10. A llabyddia ef â meini, fel y byddo marw: canys ceisiodd dy wthio di oddi wrth yr Arglwydd dy Dduw, yr hwn a'th ddug di allan o dir yr Aifft, o dŷ y caethiwed.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 13