5. Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o'ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:
6. A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntafâanedig eich gwartheg a'ch defaid.
7. A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teuluoedd, yn yr hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.
8. Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.
9. Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i'r orffwysfa, ac i'r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.
10. Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel: