Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:4-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Na wnewch felly i'r Arglwydd eich Duw.

5. Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o'ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:

6. A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a'ch defaid.

7. A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teuluoedd, yn yr hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.

8. Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.

9. Canys ni ddaethoch hyd yn hyn i'r orffwysfa, ac i'r etifeddiaeth, yr hon y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei rhoddi i ti.

10. Ond pan eloch dros yr Iorddonen, a thrigo yn y tir yr hwn y mae yr Arglwydd eich Duw yn ei roddi yn etifeddiaeth i chwi, a phan roddo lonydd i chwi oddi wrth eich holl elynion o amgylch, fel y preswylioch yn ddiogel:

11. Yna y bydd lle wedi i'r Arglwydd eich Duw ei ddewis iddo, i beri i'w enw aros ynddo; yno y dygwch yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi; sef eich poethoffrymau, a'ch aberthau, eich degymau, a dyrchafael‐offrwm eich llaw, a'ch holl ddewis addunedau, y rhai a addunedoch i'r Arglwydd.

12. A llawenhewch gerbron yr Arglwydd eich Duw; chwi, a'ch meibion, a'ch merched, a'ch gweision, a'ch morynion, a'r Lefiad a fyddo yn eich pyrth chwi: canys nid oes iddo ran nac etifeddiaeth gyda chwi.

13. Gwylia arnat rhag poethoffrymu ohonot dy boethoffrymau ym mhob lle a'r a welych:

14. Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o'th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.

15. Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a'r glân a fwyty ohono, megis o'r iwrch a'r carw.

16. Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12