Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:16-32 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

16. Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.

17. Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na'th win, na'th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na'th ddefaid, na'th holl addunedau y rhai a addunech, na'th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law:

18. Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

19. Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.

20. Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytâf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig.

21. Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o'th wartheg, ac o'th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.

22. Eto fel y bwyteir yr iwrch a'r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a'r glân a'i bwyty yn yr un ffunud.

23. Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â'r cig.

24. Na fwyta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr.

25. Na fwyta ef; fel y byddo daioni i ti, ac i'th feibion ar dy ôl, pan wnelych yr uniawn yng ngolwg yr Arglwydd.

26. Eto cymer dy gysegredig bethau y rhai sydd gennyt, a'th addunedau, a thyred i'r lle a ddewiso yr Arglwydd.

27. Ac offryma dy boethoffrwm, (y cig a'r gwaed,) ar allor yr Arglwydd dy Dduw: a gwaed dy aberthau a dywelltir wrth allor yr Arglwydd dy Dduw; a'r cig a fwytei di.

28. Cadw a gwrando yr holl eiriau hyn yr ydwyf fi yn eu gorchymyn i ti; fel y byddo daioni i ti, ac i'th feibion ar dy ôl byth, pan wnelych yr hyn sydd dda ac uniawn yng ngolwg yr Arglwydd dy Dduw.

29. Pan ddinistrio yr Arglwydd dy Dduw y cenhedloedd, y rhai yr wyt ti yn myned atynt i'w meddiannu, o'th flaen di, a dyfod ohonot yn eu lle hwynt, a phreswylio yn eu tir hwynt:

30. Gwylia arnat rhag ymfaglu ohonot ar eu hôl hwynt, wedi eu dinistrio hwynt o'th flaen di; a rhag ymorol am eu duwiau hwynt, gan ddywedyd, Pa fodd y gwasanaethodd y cenhedloedd hyn eu duwiau? myfi a wnaf felly hefyd.

31. Na wna di felly i'r Arglwydd dy Dduw: canys pob ffieidd‐dra yr hwn oedd gas gan yr Arglwydd, a wnaethant hwy i'w duwiau: canys eu meibion hefyd a'u merched a losgasant yn tân i'w duwiau.

32. Pob gair yr wyf fi yn ei orchymyn i chwi, edrychwch am wneuthur hynny: na chwanega ato, ac na thyn oddi wrtho.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12