Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:14-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Ond yn y lle a ddewiso yr Arglwydd o fewn un o'th lwythau di, yno yr offrymi dy boethoffrymau, ac y gwnei yr hyn oll yr ydwyf fi yn ei orchymyn i ti.

15. Er hynny ti a gei ladd a bwyta cig yn ôl holl ddymuniant dy galon, yn ôl bendith yr Arglwydd dy Dduw, yr hon a rydd efe i ti, yn dy holl byrth: yr aflan a'r glân a fwyty ohono, megis o'r iwrch a'r carw.

16. Ond na fwytewch y gwaed; ar y ddaear y tywelltwch ef fel dwfr.

17. Ni elli fwyta o fewn dy byrth ddegfed dy ŷd, na'th win, na'th olew, na chyntaf‐anedig dy wartheg, na'th ddefaid, na'th holl addunedau y rhai a addunech, na'th offrymau gwirfodd, na dyrchafael‐offrwm dy law:

18. Ond o flaen yr Arglwydd dy Dduw y bwytei hwynt, yn y lle a ddewiso yr Arglwydd dy Dduw; ti, a'th fab, a'th ferch, a'th was, a'th forwyn, a'r Lefiad a fyddo yn dy byrth di: llawenycha gerbron yr Arglwydd dy Dduw yn yr hyn oll yr estynnech dy law arno.

19. Gwylia arnat rhag gadael y Lefiad, tra fyddech byw ar y ddaear.

20. Pan helaetho yr Arglwydd dy Dduw dy derfyn di, megis y dywedodd wrthyt, os dywedi, Bwytâf gig, (pan ddymuno dy galon fwyta cig,) yn ôl holl ddymuniad dy galon y bwytei gig.

21. Os y lle a ddewisodd yr Arglwydd dy Dduw i roddi ei enw ynddo, fydd pell oddi wrthyt; yna lladd o'th wartheg, ac o'th ddefaid, y rhai a roddodd yr Arglwydd i ti, megis y gorchmynnais i ti, a bwyta o fewn dy byrth wrth holl ddymuniad dy galon.

22. Eto fel y bwyteir yr iwrch a'r carw, felly y bwytei ef: yr aflan a'r glân a'i bwyty yn yr un ffunud.

23. Yn unig bydd sicr na fwytaech y gwaed: canys y gwaed yw yr einioes; ac ni chei fwyta yr einioes ynghyd â'r cig.

24. Na fwyta ef; ar y ddaear y tywellti ef fel dwfr.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12