Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 12:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Dyma 'r deddfau a'r barnedigaethau, y rhai a wyliwch ar eu gwneuthur, yn y tir a rydd Arglwydd Dduw dy dadau i ti i'w feddiannu, yr holl ddyddiau y byddoch fyw ar y ddaear.

2. Gan ddinistrio dinistriwch yr holl fannau, y rhai y gwasanaethodd y cenhedloedd yr ydych chwi yn eu meddiannu eu duwiau ynddynt, ar y mynyddoedd uchel, ac ar y bryniau, a than bob pren gwyrddlas.

3. Drylliwch hefyd eu hallorau hwynt, a thorrwch eu colofnau hwynt, a llosgwch eu llwynau hwynt â thân, a thorrwch gerfiedig ddelwau eu duwiau hwynt, a dinistriwch eu henwau hwynt o'r lle hwnnw.

4. Na wnewch felly i'r Arglwydd eich Duw.

5. Ond y lle a ddewiso yr Arglwydd eich Duw o'ch holl lwythau chwi, i osod ei enw yno, ei drigfa ef a geisiwch, ac yno y deuwch:

6. A dygwch yno eich poethoffrymau, a'ch aberthau, a'ch degymau, ac offrwm dyrchafael eich llaw, eich addunedau hefyd, a'ch offrymau gwirfodd, a chyntaf‐anedig eich gwartheg a'ch defaid.

7. A bwytewch yno gerbron yr Arglwydd eich Duw, a llawenhewch ym mhob dim y rhoddoch eich llaw arno, chwychwi a'ch teuluoedd, yn yr hyn y'th fendithiodd yr Arglwydd dy Dduw.

8. Na wnewch yn ôl yr hyn oll yr ydym ni yn ei wneuthur yma heddiw, pob un yr hyn fyddo uniawn yn ei olwg ei hun.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 12