Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 11:1-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Car dithau yr Arglwydd dy Dduw, a chadw ei gadwraeth ef, a'i ddeddfau a'i farnedigaethau, a'i orchmynion, byth.

2. A chydnabyddwch heddiw: canys nid wyf yn ymddiddan â'ch plant, y rhai nid adnabuant, ac ni welsant gerydd yr Arglwydd eich Duw chwi, ei fawredd, ei law gref, a'i fraich estynedig;

3. Ei arwyddion hefyd, a'i weithredoedd, y rhai a wnaeth efe yng nghanol yr Aifft, i Pharo brenin yr Aifft, ac i'w holl dir;

4. A'r hyn a wnaeth efe i lu yr Aifft, i'w feirch ef, ac i'w gerbydau; y modd y gwnaeth efe i ddyfroedd y môr coch lenwi dros eu hwynebau hwynt, pan oeddynt yn ymlid ar eich ôl, ac y difethodd yr Arglwydd hwynt, hyd y dydd hwn:

5. A'r hyn a wnaeth efe i chwi yn yr anialwch, nes eich dyfod i'r lle hwn;

6. A'r hyn a wnaeth efe i Dathan, ac i Abiram, meibion Elïab, mab Reuben; y modd yr agorodd y ddaear ei safn, ac a'u llyncodd hwynt, a'u teuluoedd, a'u pebyll, a'r holl olud oedd ganddynt, ymysg holl Israel.

7. Eithr eich llygaid chwi oedd yn gweled holl fawrion weithredoedd yr Arglwydd, y rhai a wnaeth efe.

8. Cedwch chwithau bob gorchymyn yr ydwyf fi yn ei orchymyn i chwi heddiw; fel y byddoch gryfion, ac yr eloch i mewn, ac y meddiannoch y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu:

9. Ac fel yr estynnoch ddyddiau yn y tir yr hwn a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau, ar ei roddi iddynt, ac i'w had; sef tir yn llifeirio o laeth a mêl.

10. Oherwydd y tir yr wyt yn myned iddo i'w feddiannu, nid fel tir yr Aifft y mae, yr hwn y daethoch allan ohono, lle yr heuaist dy had, ac y dyfrheaist â'th droed, fel gardd lysiau:

11. Ond y tir yr ydych yn myned trosodd iddo i'w feddiannu, sydd fynydd‐dir, a dyffryndir, yn yfed dwfr o law y nefoedd;

12. Tir yw, yr hwn y mae yr Arglwydd dy Dduw yn ei ymgeleddu: llygaid yr Arglwydd dy Dduw sydd bob amser arno, o ddechreuad y flwyddyn hyd ddiwedd y flwyddyn hefyd.

13. A bydd, os gan wrando y gwrandewch ar fy ngorchmynion, y rhai yr ydwyf yn eu gorchymyn i chwi heddiw, i garu yr Arglwydd eich Duw, ac i'w wasanaethu, â'ch holl galon, ac â'ch holl enaid;

14. Yna y rhoddaf law i'ch tir yn ei amser, sef y cynnar‐law, a'r diweddar‐law; fel y casglech dy ŷd, a'th win, a'th olew;

15. A rhoddaf laswellt yn dy faes, i'th anifeiliaid; fel y bwytaech, ac y'th ddigoner.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 11