6. Yr Arglwydd ein Duw a lefarodd wrthym ni yn Horeb, gan ddywedyd, Digon i chwi drigo hyd yn hyn yn y mynydd hwn:
7. Dychwelwch, a chychwynnwch rhagoch ac ewch i fynydd yr Amoriaid, ac i'w holl gyfagos leoedd; i'r rhos, i'r mynydd, ac i'r dyffryn, ac i'r deau, ac i borthladd y môr, i dir y Canaaneaid, ac i Libanus, hyd yr afon fawr, afon Ewffrates.
8. Wele, rhoddais y wlad o'ch blaen chwi: ewch i mewn, a pherchenogwch y wlad yr hon a dyngodd yr Arglwydd i'ch tadau chwi, i Abraham, i Isaac, ac i Jacob, ar ei rhoddi iddynt, ac i'w had ar eu hôl hwynt.
9. A mi a leferais wrthych yr amser hwnnw, gan ddywedyd, Ni allaf fi fy hun eich cynnal chwi:
10. Yr Arglwydd eich Duw a'ch lluosogodd chwi; ac wele chwi heddiw fel sêr y nefoedd o luosowgrwydd.
11. ( Arglwydd Dduw eich tadau a'ch cynyddo yn fil lluosocach nag ydych, ac a'ch bendithio, fel y llefarodd efe wrthych!)
12. Pa wedd y dygwn fy hun eich blinder, a'ch baich, a'ch ymryson chwi?
13. Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.
14. Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.
15. Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a'u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.
16. A'r amser hwnnw y gorchmynnais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gydag ef.