Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:35-46 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

35. Diau na chaiff yr un o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi;

36. Oddieithr Caleb mab Jeffunne: efe a'i gwêl hi, ac iddo ef y rhoddaf y wlad y sangodd efe arni, ac i'w feibion; o achos cyflawni ohono wneuthur ar ôl yr Arglwydd.

37. Wrthyf finnau hefyd y digiodd yr Arglwydd o'ch plegid chwi, gan ddywedyd Tithau hefyd ni chei fyned i mewn yno.

38. Josua mab Nun, yr hwn sydd yn sefyll ger dy fron di, efe a â i mewn yno: cadarnha di ef; canys efe a'i rhan hi yn etifeddiaeth i Israel.

39. Eich plant hefyd, y rhai y dywedasoch y byddent yn ysbail, a'ch meibion chwi, y rhai ni wyddant heddiw na da na drwg, hwynt‐hwy a ânt i mewn yno, ac iddynt hwy y rhoddaf hi, a hwy a'i perchenogant hi.

40. Trowch chwithau, ac ewch i'r anialwch ar hyd ffordd y môr coch.

41. Yna yr atebasoch, ac a ddywedasoch wrthyf, Pechasom yn erbyn yr Arglwydd: nyni a awn i fyny ac a ymladdwn, yn ôl yr hyn oll a orchmynnodd yr Arglwydd ein Duw i ni. A gwisgasoch bob un ei arfau rhyfel, ac a ymroesoch i fyned i fyny i'r mynydd.

42. A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Dywed wrthynt, Nac ewch i fyny, ac na ryfelwch; oblegid nid ydwyf fi yn eich mysg chwi; rhag eich taro o flaen eich gelynion

43. Felly y dywedais wrthych; ond ni wrandawsoch, eithr gwrthryfelasoch yn erbyn gair yr Arglwydd; rhyfygasoch hefyd, ac aethoch i fyny i'r mynydd.

44. A daeth allan yr Amoriaid, oedd yn trigo yn y mynydd hwnnw, i'ch cyfarfod chwi; ac a'ch ymlidiasant fel y gwnâi gwenyn, ac a'ch difethasant chwi yn Seir, hyd Horma.

45. A dychwelasoch, ac wylasoch gerbron yr Arglwydd: ond ni wrandawodd yr Arglwydd ar eich llef, ac ni roddes glust i chwi.

46. Ac arosasoch yn Cades ddyddiau lawer, megis y dyddiau yr arosasoch o'r blaen.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1