Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:22-35 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

22. A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

23. A'r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth.

24. A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i'r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a'i chwiliasant ef.

25. Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a'i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

26. Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw.

27. Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o'r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i'n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha.

28. I ba le yr awn i fyny? ein brodyr a'n digalonasant ni, gan ddywedyd, Pobl fwy a hwy na nyni ydynt; dinasoedd mawrion a chaerog hyd y nefoedd: meibion yr Anaciaid hefyd a welsom ni yno.

29. Yna y dywedais wrthych, Nac arswydwch, ac nac ofnwch rhagddynt hwy.

30. Yr Arglwydd eich Duw, yr hwn sydd yn myned o'ch blaen, efe a ymladd drosoch, yn ôl yr hyn oll a wnaeth efe eroch chwi yn yr Aifft o flaen eich llygaid;

31. Ac yn yr anialwch, lle y gwelaist fel y'th ddug yr Arglwydd dy Dduw, fel y dwg gŵr ei fab, yn yr holl ffordd a gerddasoch, nes eich dyfod i'r man yma.

32. Eto yn y peth hyn ni chredasoch chwi yn yr Arglwydd eich Duw,

33. Yr hwn oedd yn myned o'ch blaen chwi ar hyd y ffordd, i chwilio i chwi am le i wersyllu; y nos mewn tân, i ddangos i chwi pa ffordd yr aech, a'r dydd mewn cwmwl.

34. A chlybu yr Arglwydd lais eich geiriau; ac a ddigiodd, ac a dyngodd, gan ddywedyd,

35. Diau na chaiff yr un o'r dynion hyn, o'r genhedlaeth ddrwg hon, weled y wlad dda yr hon y tyngais ar ei rhoddi i'ch tadau chwi;

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1