Hen Destament

Testament Newydd

Deuteronomium 1:13-27 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Moeswch i chwi wŷr doethion, a deallus, a rhai hynod trwy eich llwythau; fel y gosodwyf hwynt yn bennau arnoch chwi.

14. Ac atebasoch fi, a dywedasoch, Da yw gwneuthur y peth a ddywedaist.

15. Cymerais gan hynny bennau eich llwythau chwi, sef gwŷr doethion, a rhai hynod, ac a'u gwneuthum hwynt yn bennau arnoch; sef yn gapteiniaid ar filoedd, ac yn gapteiniaid ar gannoedd, ac yn gapteiniaid ar ddegau a deugain, ac yn gapteiniaid ar ddegau, ac yn swyddogion yn eich llwythau chwi.

16. A'r amser hwnnw y gorchmynnais i'ch barnwyr chwi, gan ddywedyd, Gwrandewch ddadleuon rhwng eich brodyr a bernwch yn gyfiawn rhwng gŵr a'i frawd, ac a'r dieithr sydd gydag ef.

17. Na chydnabyddwch wynebau mewn barn; gwrandewch ar y lleiaf, yn gystal ag ar y mwyaf: nac ofnwch wyneb gŵr; oblegid y farn sydd eiddo Duw: a'r peth a fydd rhy galed i chwi, a ddygwch ataf fi, a mi a'i gwrandawaf.

18. Gorchmynnais i chwi hefyd yr amser hwnnw yr holl bethau a ddylech eu gwneuthur.

19. A phan fudasom o Horeb, ni a gerddasom trwy'r holl anialwch mawr ac ofnadwy hwnnw, yr hwn a welsoch ffordd yr eir i fynydd yr Amoriaid, fel y gorchmynasai yr Arglwydd ein Duw i ni: ac a ddaethom i Cades‐Barnea.

20. A dywedais wrthych, Daethoch hyd fynydd yr Amoriaid, yr hwn y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei roddi i ni.

21. Wele, yr Arglwydd dy Dduw a roddes y wlad o'th flaen: dos i fyny a pherchenoga hi, fel y llefarodd Arglwydd Dduw dy dadau wrthynt; nac ofna, ac na lwfrha.

22. A chwi oll a ddaethoch ataf, ac a ddywedasoch, Anfonwn wŷr o'n blaen, a hwy a chwiliant y wlad i ni, ac a fynegant beth i ni am y ffordd yr awn i fyny ar hyd‐ddi, ac am y dinasoedd y deuwn i mewn iddynt.

23. A'r peth oedd dda yn fy ngolwg: ac mi a gymerais ddeuddengwr ohonoch, un gŵr o bob llwyth.

24. A hwy a droesant, ac a aethant i fyny i'r mynydd, ac a ddaethant hyd ddyffryn Escol, ac a'i chwiliasant ef.

25. Ac a gymerasant o ffrwyth y tir yn eu llaw, ac a'i dygasant i waered atom ni, ac a ddygasant air i ni drachefn, ac a ddywedasant, Da yw y wlad y mae yr Arglwydd ein Duw yn ei rhoddi i ni.

26. Er hynny ni fynnech fyned i fyny ond gwrthryfelasoch yn erbyn gair y Arglwydd eich Duw.

27. Grwgnachasoch hefyd yn eich pebyll a dywedasoch, Am gasáu o'r Arglwydd nyni, y dug efe ni allan o dir yr Aifft i'n rhoddi yn llaw yr Amoriaid, i'n difetha.

Darllenwch bennod gyflawn Deuteronomium 1