1. Dyma y geiriau a ddywedodd Moses wrth holl Israel, o'r tu yma i'r Iorddonen, yn yr anialwch, ar y rhos gyferbyn â'r môr coch, rhwng Paran, a Toffel, a Laban, a Haseroth, a Disahab.
2. (Taith un diwrnod ar ddeg sydd o Horeb, ffordd yr eir i fynydd Seir, hyd CadesāBarnea.)
3. A bu yn y ddeugeinfed flwyddyn, yn yr unfed mis ar ddeg, ar y dydd cyntaf o'r mis, i Moses lefaru wrth feibion Israel, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd iddo ei ddywedyd wrthynt;
4. Wedi iddo ladd Sehon brenin yr Amoriaid, yr hwn oedd yn trigo yn Hesbon, ac Og brenin Basan, yr hwn oedd yn trigo yn Astaroth, o fewn Edrei;