Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 9:13-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di.

14. Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a'i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef.

15. Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.

16. O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a'th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a'th bobl yn waradwydd i bawb o'n hamgylch.

17. Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd.

18. Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a'r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di.

19. Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 9