6. Wedi hyn yr edrychais, ac wele un arall megis llewpard, ac iddo bedair adain aderyn ar ei gefn: a phedwar pen oedd i'r bwystfil; a rhoddwyd llywodraeth iddo.
7. Wedi hyn y gwelwn mewn gweledigaethau nos, ac wele bedwerydd bwystfil, ofnadwy, ac erchyll, a chryf ragorol; ac iddo yr oedd dannedd mawrion o haearn: yr oedd yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill dan ei draed: hefyd yr ydoedd efe yn amryw oddi wrth y bwystfilod oll y rhai a fuasai o'i flaen ef; ac yr oedd iddo ddeg o gyrn.
8. Yr oeddwn yn ystyried y cyrn; ac wele, cyfododd corn bychan arall yn eu mysg hwy, a thynnwyd o'r gwraidd dri o'r cyrn cyntaf o'i flaen ef: ac wele lygaid fel llygaid dyn yn y corn hwnnw, a genau yn traethu mawrhydri.
9. Edrychais hyd oni fwriwyd i lawr y gorseddfeydd, a'r Hen ddihenydd a eisteddodd: ei wisg oedd cyn wynned â'r eira, a gwallt ei ben fel gwlân pur; ei orseddfa yn fflam dân, a'i olwynion yn dân poeth.
10. Afon danllyd oedd yn rhedeg ac yn dyfod allan oddi ger ei fron ef: mil o filoedd a'i gwasanaethent, a myrdd fyrddiwn a safent ger ei fron: y farn a eisteddodd, ac agorwyd y llyfrau.
11. Edrychais yna, o achos llais y geiriau mawrion a draethodd y corn; ie, edrychais hyd oni laddwyd y bwystfil, a difetha ei gorff ef, a'i roddi i'w losgi yn tân.
12. A'r rhan arall o'r bwystfilod, eu llywodraeth a dducpwyd ymaith; a rhoddwyd iddynt einioes dros ysbaid ac amser.
13. Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a'i dygasant ger ei fron ef.
14. Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i'r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a'i frenhiniaeth ni ddifethir.
15. Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a'm dychrynasant.
16. Neseais at un o'r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.
17. Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o'r ddaear.
18. Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.
19. Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a'i ddannedd o haearn, a'i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â'i draed: