Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 7:13-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Mi a welwn mewn gweledigaethau nos, ac wele, megis Mab y dyn oedd yn dyfod gyda chymylau y nefoedd; ac at yr Hen ddihenydd y daeth, a hwy a'i dygasant ger ei fron ef.

14. Ac efe a roddes iddo lywodraeth, a gogoniant, a brenhiniaeth, fel y byddai i'r holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd ei wasanaethu ef: ei lywodraeth sydd lywodraeth dragwyddol, yr hon nid â ymaith, a'i frenhiniaeth ni ddifethir.

15. Myfi Daniel a ymofidiais yn fy ysbryd yng nghanol fy nghorff, a gweledigaethau fy mhen a'm dychrynasant.

16. Neseais at un o'r rhai a safent gerllaw, a cheisiais ganddo y gwirionedd am hyn oll. Ac efe a ddywedodd i mi, ac a wnaeth i mi wybod dehongliad y pethau.

17. Y bwystfilod mawrion hyn, y rhai sydd bedwar, ydynt bedwar brenin, y rhai a gyfodant o'r ddaear.

18. Eithr saint y Goruchaf a dderbyniant y frenhiniaeth, ac a feddiannant y frenhiniaeth hyd byth, a hyd byth bythoedd.

19. Yna yr ewyllysiais wybod y gwirionedd am y pedwerydd bwystfil, yr hwn oedd yn amrywio oddi wrthynt oll, yn ofnadwy iawn, a'i ddannedd o haearn, a'i ewinedd o bres; yn bwyta, ac yn dryllio, ac yn sathru y gweddill â'i draed:

20. Ac am y deg corn oedd ar ei ben ef, a'r llall yr hwn a gyfodasai, ac y syrthiasai tri o'i flaen; sef y corn yr oedd llygaid iddo, a genau yn traethu mawrhydri, a'r olwg arno oedd yn arwach na'i gyfeillion.

21. Edrychais, a'r corn hwn a wnaeth ryfel ar y saint, ac a fu drech na hwynt;

22. Hyd oni ddaeth yr Hen ddihenydd, a rhoddi barn i saint y Goruchaf, a dyfod o'r amser y meddiannai y saint y frenhiniaeth.

23. Fel hyn y dywedodd efe; Y pedwerydd bwystfil fydd y bedwaredd frenhiniaeth ar y ddaear, yr hon a fydd amryw oddi wrth yr holl freniniaethau, ac a ddifa yr holl ddaear, ac a'i sathr hi, ac a'i dryllia.

24. A'r deg corn o'r frenhiniaeth hon fydd deg brenin, y rhai a gyfodant: ac un arall a gyfyd ar eu hôl hwynt, ac efe a amrywia oddi wrth y rhai cyntaf, ac a ddarostwng dri brenin.

25. Ac efe a draetha eiriau yn erbyn y Goruchaf, ac a ddifa saint y Goruchaf, ac a feddwl newidio amseroedd a chyfreithau: a hwy a roddir yn ei law ef, hyd amser ac amseroedd a rhan amser.

26. Yna yr eistedd y farn, a'i lywodraeth a ddygant, i'w difetha ac i'w distrywio hyd y diwedd.

27. A'r frenhiniaeth a'r llywodraeth, a mawredd y frenhiniaeth dan yr holl nefoedd, a roddir i bobl saint y Goruchaf, yr hwn y mae ei frenhiniaeth yn frenhiniaeth dragwyddol, a phob llywodraeth a wasanaethant ac a ufuddhânt iddo.

28. Hyd yma y mae diwedd y peth. Fy meddyliau i Daniel a'm dychrynodd yn ddirfawr, a'm gwedd a newidiodd ynof; eithr mi a gedwais y peth yn fy nghalon.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 7