Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 6:4-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Yna y rhaglawiaid a'r tywysogion oedd yn ceisio cael achlysur yn erbyn Daniel o ran y frenhiniaeth: ond ni fedrent gael un achos na bai; oherwydd ffyddlon oedd efe, fel na chaed ynddo nac amryfusedd na bai.

5. Yna y dywedodd y gwŷr hyn, Ni chawn yn erbyn y Daniel hwn ddim achlysur, oni chawn beth o ran cyfraith ei Dduw yn ei erbyn ef.

6. Yna y rhaglawiaid a'r tywysogion hyn a aethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrtho fel hyn; Dareius frenin, bydd fyw byth.

7. Holl raglawiaid y deyrnas, y swyddogion, a'r tywysogion, y cynghoriaid, a'r dugiaid, a ymgyngorasant am osod deddf frenhinol, a chadarnhau gorchymyn, fod bwrw i ffau y llewod pwy bynnag a archai arch gan un Duw na dyn dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin.

8. Yr awr hon, O frenin, sicrha y gorchymyn, a selia yr ysgrifen, fel nas newidier; yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir.

9. Oherwydd hyn y seliodd y brenin Dareius yr ysgrifen a'r gorchymyn.

10. Yna Daniel, pan wybu selio yr ysgrifen, a aeth i'w dŷ, a'i ffenestri yn agored yn ei ystafell tua Jerwsalem; tair gwaith yn y dydd y gostyngai efe ar ei liniau, ac y gweddïai, ac y cyffesai o flaen ei Dduw, megis y gwnâi efe cyn hynny.

11. Yna y gwŷr hyn a ddaethant ynghyd, ac a gawsant Daniel yn gweddïo ac yn ymbil o flaen ei Dduw.

12. Yna y nesasant, ac y dywedasant o flaen y brenin am orchymyn y brenin; Oni seliaist ti orchymyn, mai i ffau y llewod y bwrid pa ddyn bynnag a ofynnai gan un Duw na dyn ddim dros ddeng niwrnod ar hugain, ond gennyt ti, O frenin? Atebodd y brenin, a dywedodd, Y mae y peth yn wir, yn ôl cyfraith y Mediaid a'r Persiaid, yr hon ni newidir.

13. Yna yr atebasant ac y dywedasant o flaen y brenin, Y Daniel, yr hwn sydd o feibion caethglud Jwda, ni wnaeth gyfrif ohonot ti, frenin, nac o'r gorchymyn a seliaist, eithr tair gwaith yn y dydd y mae yn gweddïo ei weddi.

14. Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef.

15. Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a'r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin.

16. Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a'th achub di.

17. A dygwyd carreg ac a'i gosodwyd ar enau y ffau; a'r brenin a'i seliodd hi â'i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 6