Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 6:14-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Yna y brenin, pan glybu y gair hwn, a aeth yn ddrwg iawn ganddo, ac a roes ei fryd gyda Daniel ar ei waredu ef: ac a fu hyd fachludiad haul yn ceisio ei achub ef.

15. Yna y gwŷr hynny a ddaethant ynghyd at y brenin, ac a ddywedasant wrth y brenin, Gwybydd, frenin, mai cyfraith y Mediaid a'r Persiaid yw, na newidier un gorchymyn na deddf a osodo y brenin.

16. Yna yr archodd y brenin, a hwy a ddygasant Daniel, ac a'i bwriasant i ffau y llewod. Yna y brenin a lefarodd ac a ddywedodd wrth Daniel, Dy Dduw, yr hwn yr ydwyt yn ei wasanaethu yn wastad, efe a'th achub di.

17. A dygwyd carreg ac a'i gosodwyd ar enau y ffau; a'r brenin a'i seliodd hi â'i sêl ei hun, ac â sêl ei dywysogion, fel na newidid yr ewyllys am Daniel.

18. Yna yr aeth y brenin i'w lys, ac a fu y noson honno heb fwyd: ac ni adawodd ddwyn difyrrwch o'i flaen; ei gwsg hefyd a giliodd oddi wrtho.

19. Yna y cododd y brenin yn fore iawn ar y wawrddydd, ac a aeth ar frys at ffau y llewod.

20. A phan nesaodd efe at y ffau, efe a lefodd ar Daniel â llais trist. Llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Daniel, gwasanaethwr y Duw byw, a all dy Dduw di, yr hwn yr wyt yn ei wasanaethu yn wastad, dy gadw di rhag y llewod?

21. Yna y dywedodd Daniel wrth y brenin, O frenin, bydd fyw byth.

22. Fy Nuw a anfonodd ei angel, ac a gaeodd safnau y llewod, fel na wnaethant i mi niwed: oherwydd puredd a gaed ynof ger ei fron ef; a hefyd ni wneuthum niwed o'th flaen dithau, frenin.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 6