Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 5:18-31 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd.

19. Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a'r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a'r neb a fynnai a ostyngai.

20. Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o'i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a'i ogoniant a dynasant oddi wrtho:

21. Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda'r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a'i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno.

22. A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll;

23. Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a'th dywysogion, dy wragedd a'th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a'th holl ffyrdd yn eiddo.

24. Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.

25. A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN.

26. Dyma ddehongliad y peth: MENE; Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac a'i gorffennodd.

27. TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a'th gaed yn brin.

28. PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i'r Mediaid a'r Persiaid.

29. Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.

30. Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid.

31. A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 5