Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:6-16 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.

7. Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o'u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.

8. Ond o'r diwedd daeth Daniel o'm blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a'm breuddwyd a draethais o'i flaen ef, gan ddywedyd,

9. Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a'i ddehongliad.

10. A dyma weledigaethau fy mhen ar fy ngwely; Edrych yr oeddwn, ac wele bren yng nghanol y ddaear, a'i uchder yn fawr.

11. Mawr oedd y pren a chadarn, a'i uchder a gyrhaeddai hyd y nefoedd; yr ydoedd hefyd i'w weled hyd yn eithaf yr holl ddaear.

12. Ei ganghennau oedd deg, a'i ffrwyth yn aml, ac ymborth arno i bob peth: dano yr ymgysgodai bwystfilod y maes, ac adar y nefoedd a drigent yn ei ganghennau ef, a phob cnawd a fwytâi ohono.

13. Edrych yr oeddwn yng ngweledigaethau fy mhen ar fy ngwely, ac wele wyliedydd a sanct yn disgyn o'r nefoedd,

14. Yn llefain yn groch, ac yn dywedyd fel hyn, Torrwch y pren, ac ysgythrwch ei wrysg ef, ysgydwch ei ddail ef, a gwasgerwch ei ffrwyth: cilied y bwystfil oddi tano, a'r adar o'i ganghennau.

15. Er hynny gadewch foncyff ei wraidd ef yn y ddaear, mewn rhwym o haearn a phres, ymhlith gwellt y maes; gwlycher ef hefyd â gwlith y nefoedd, a bydded ei ran gyda'r bwystfilod yng ngwellt y ddaear.

16. Newidier ei galon ef o fod yn galon dyn, a rhodder iddo galon bwystfil: a chyfnewidier saith amser arno.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4