Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 4:24-37 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

24. Dyma y dehongliad, O frenin, a dyma ordinhad y Goruchaf, yr hwn sydd yn dyfod ar fy arglwydd frenin.

25. Canys gyrrant di oddi wrth ddynion, a chyda bwystfil y maes y bydd dy drigfa, â gwellt hefyd y'th borthant fel eidionau, ac a'th wlychant â gwlith y nefoedd, a saith amser a gyfnewidia arnat ti, hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb a fynno.

26. A lle y dywedasant am adael boncyff gwraidd y pren; dy frenhiniaeth fydd sicr i ti, wedi i ti wybod mai y nefoedd sydd yn llywodraethu.

27. Am hynny, frenin, bydded fodlon gennyt fy nghyngor, a thor ymaith dy bechodau trwy gyfiawnder, a'th anwireddau trwy drugarhau wrth drueiniaid, i edrych a fydd estyniad ar dy heddwch.

28. Daeth hyn oll ar Nebuchodonosor y brenin.

29. Ymhen deuddeng mis yr oedd efe yn rhodio yn llys brenhiniaeth Babilon.

30. Llefarodd y brenin, a dywedodd, Onid hon yw Babilon fawr, yr hon a adeiledais i yn frenhindy yng nghryfder fy nerth, ac er gogoniant fy mawrhydi?

31. A'r gair eto yng ngenau y brenin, syrthiodd llef o'r nefoedd, yn dywedyd, Wrthyt ti, frenin Nebuchodonosor, y dywedir, Aeth y frenhiniaeth oddi wrthyt.

32. A thi a yrrir oddi wrth ddynion, a'th drigfa fydd gyda bwystfilod y maes; â gwellt y'th borthant fel eidionau; a chyfnewidir saith amser arnat; hyd oni wypech mai y Goruchaf sydd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn ei rhoddi i'r neb y mynno.

33. Yr awr honno y cyflawnwyd y gair ar Nebuchodonosor, ac y gyrrwyd ef oddi wrth ddynion, ac y porodd wellt fel eidionau, ac y gwlychwyd ei gorff ef gan wlith y nefoedd, hyd oni thyfodd ei flew ef fel plu eryrod, a'i ewinedd fel ewinedd adar.

34. Ac yn niwedd y dyddiau, myfi Nebuchodonosor a ddyrchefais fy llygaid tua'r nefoedd, a'm gwybodaeth a ddychwelodd ataf, a bendithiais y Goruchaf, a moliennais a gogoneddais yr hwn sydd yn byw byth, am fod ei lywodraeth ef yn llywodraeth dragwyddol, a'i frenhiniaeth hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

35. A holl drigolion y ddaear a gyfrifir megis yn ddiddim: ac yn ôl ei ewyllys ei hun y mae yn gwneuthur â llu y nefoedd, ac â thrigolion y ddaear; ac nid oes a atalio ei law ef, neu a ddywedo wrtho, Beth yr wyt yn ei wneuthur?

36. Yn yr amser hwnnw y dychwelodd fy synnwyr ataf fi, a deuthum i ogoniant fy mrenhiniaeth, fy harddwch a'm hoywder a ddychwelodd ataf fi, a'm cynghoriaid a'm tywysogion a'm ceisiasant; felly y'm sicrhawyd yn fy nheyrnas, a chwanegwyd i mi fawredd rhagorol.

37. Yr awr hon myfi Nebuchodonosor ydwyf yn moliannu, ac yn mawrygu, ac yn gogoneddu Brenin y nefoedd, yr hwn y mae ei holl weithredoedd yn wirionedd, a'i lwybrau yn farn, ac a ddichon ddarostwng y rhai a rodiant mewn balchder.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 4