1. Nebuchodonosor frenin at yr holl bobloedd, cenhedloedd, a ieithoedd, y rhai a drigant yn yr holl ddaear; Aml fyddo heddwch i chwi.
2. Mi a welais yn dda fynegi yr arwyddion a'r rhyfeddodau a wnaeth y goruchaf Dduw â mi.
3. Mor fawr yw ei arwyddion ef! ac mor gedyrn yw ei ryfeddodau! ei deyrnas ef sydd deyrnas dragwyddol, a'i lywodraeth ef sydd o genhedlaeth i genhedlaeth.
4. Myfi Nebuchodonosor oeddwn esmwyth arnaf yn fy nhÅ·, ac yn hoyw yn fy llys.
5. Gwelais freuddwyd yr hwn a'm hofnodd; meddyliau hefyd yn fy ngwely, a gweledigaethau fy mhen, a'm dychrynasant.
6. Am hynny y gosodwyd gorchymyn gennyf fi, ar ddwyn ger fy mron holl ddoethion Babilon, fel yr hysbysent i mi ddehongliad y breuddwyd.
7. Yna y dewiniaid, yr astronomyddion, y Caldeaid, a'r brudwyr, a ddaethant: a mi a ddywedais y breuddwyd o'u blaen hwynt; ond ei ddehongliad nid hysbysasant i mi.
8. Ond o'r diwedd daeth Daniel o'm blaen i, (yr hwn yw ei enw Beltesassar, yn ôl enw fy nuw i, yr hwn hefyd y mae ysbryd y duwiau sanctaidd ynddo,) a'm breuddwyd a draethais o'i flaen ef, gan ddywedyd,
9. Beltesassar, pennaeth y dewiniaid, oherwydd i mi wybod fod ysbryd y duwiau sanctaidd ynot ti, ac nad oes un dirgelwch yn anodd i ti, dywed weledigaethau fy mreuddwyd yr hwn a welais, a'i ddehongliad.