Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 3:3-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Yna y tywysogion, dugiaid, a phendefigion, rhaglawiaid, y trysorwyr, y cyfreithwyr, y trethwyr, a holl lywodraethwyr y taleithiau, a ymgasglasant ynghyd wrth gysegru y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin: a hwy a safasant o flaen y ddelw a gyfodasai Nebuchodonosor.

4. A chyhoeddwr a lefodd yn groch, Wrthych chwi, bobloedd, genhedloedd, a ieithoedd, y dywedir,

5. Pan glywoch sŵn y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, y symffon, a phob rhyw gerdd, y syrthiwch, ac yr addolwch y ddelw aur a gyfododd Nebuchodonosor y brenin.

6. A'r hwn ni syrthio ac ni addolo, yr awr honno a fwrir i ganol ffwrn o dân poeth.

7. Am hynny yr amser hwnnw, pan glywodd yr holl bobloedd sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a phob rhyw gerdd, y bobloedd, y cenhedloedd, a'r ieithoedd oll, a syrthiasant, ac a addolasant y ddelw aur a gyfodasai Nebuchodonosor y brenin.

8. O ran hynny yr amser hwnnw y daeth gwŷr o Caldea, ac a gyhuddasant yr Iddewon.

9. Adroddasant a dywedasant wrth Nebuchodonosor y brenin, Bydd fyw, frenin, yn dragywydd.

10. Ti, frenin, a osodaist orchymyn, ar i bwy bynnag a glywai sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a'r symffon, a phob rhyw gerdd, syrthio ac ymgrymu i'r ddelw aur:

11. A phwy bynnag ni syrthiai ac nid ymgrymai, y teflid ef i ganol ffwrn o dân poeth.

12. Y mae gwŷr o Iddewon a osodaist ti ar oruchwyliaeth talaith Babilon, Sadrach, Mesach, ac Abednego; y gwŷr hyn, O frenin, ni wnaethant gyfrif ohonot ti; dy dduwiau nid addolant, ac nid ymgrymant i'r ddelw aur a gyfodaist.

13. Yna Nebuchodonosor mewn llidiowgrwydd a dicter a ddywedodd am gyrchu Sadrach, Mesach, ac Abednego. Yna y ducpwyd y gwŷr hyn o flaen y brenin.

14. Adroddodd Nebuchodonosor a dywedodd wrthynt, Ai gwir hyn, Sadrach, Mesach, ac Abednego? oni addolwch chwi fy nuwiau i, ac oni ymgrymwch i'r ddelw aur a gyfodais i?

15. Yr awr hon wele, os byddwch chwi barod pan glywoch sain y cornet, y chwibanogl, y delyn, y dulsimer, y saltring, a'r symffon, a phob rhyw gerdd, i syrthio ac i ymgrymu i'r ddelw a wneuthum, da: ac onid ymgrymwch, yr awr honno y bwrir chwi i ganol ffwrn o dân poeth; a pha Dduw yw efe a'ch gwared chwi o'm dwylo i?

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 3