Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:7-24 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;

8. Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aifft, eu duwiau hwynt, a'u tywysogion, a'u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.

9. A brenin y deau a ddaw i'w deyrnas, ac a ddychwel i'w dir ei hun.

10. A'i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef.

11. Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i'w law ef.

12. Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf.

13. Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na'r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr.

14. Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a'r ysbeilwyr o'th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant.

15. Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na'i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll.

16. A'r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o'i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi.

17. Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

18. Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i'w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a'i detry arno ef.

19. Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef.

20. Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

21. Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

22. Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o'i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.

23. Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl.

24. I'r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11