Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:43-45 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

43. Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a'r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.

44. Eithr chwedlau o'r dwyrain ac o'r gogledd a'i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

45. Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11