Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:26-44 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

26. Y rhai a fwytânt ran o'i fwyd ef a'i difethant ef, a'i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.

27. A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.

28. Ac efe a ddychwel i'w dir ei hun â chyfoeth mawr; a'i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i'w wlad.

29. Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua'r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

30. Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â'r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd.

31. Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol.

32. A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant.

33. A'r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer.

34. A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith.

35. A rhai o'r deallgar a syrthiant i'w puro, ac i'w glanhau, ac i'w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig.

36. A'r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd.

37. Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga.

38. Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol.

39. Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth.

40. Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i'r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd.

41. Ac efe a ddaw i'r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o'i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon.

42. Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol.

43. Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a'r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef.

44. Eithr chwedlau o'r dwyrain ac o'r gogledd a'i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11