Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:17-28 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

17. Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef.

18. Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i'w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a'i detry arno ef.

19. Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef.

20. Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel.

21. Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith.

22. Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o'i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd.

23. Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl.

24. I'r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser.

25. Ac efe a gyfyd ei nerth a'i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef.

26. Y rhai a fwytânt ran o'i fwyd ef a'i difethant ef, a'i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig.

27. A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig.

28. Ac efe a ddychwel i'w dir ei hun â chyfoeth mawr; a'i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i'w wlad.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11