Hen Destament

Testament Newydd

Daniel 11:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i'w gryfhau ac i'w nerthu ef.

2. Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a'r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg.

3. A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno.

4. A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a'i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i'w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

5. Yna y cryfha brenin y deau, ac un o'i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef.

6. Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na'i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a'r rhai a'i dygasant hi, a'r hwn a'i cenhedlodd hi, a'i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn.

7. Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga;

8. Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i'r Aifft, eu duwiau hwynt, a'u tywysogion, a'u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd.

Darllenwch bennod gyflawn Daniel 11