1. Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a'r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth.
2. Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau.
3. Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau.
4. Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o'r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Hidecel;
5. Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a'i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas:
6. A'i gorff oedd fel maen beryl, a'i wyneb fel gwelediad mellten, a'i lygaid fel lampau tân, a'i freichiau a'i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa.
7. A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio.
8. A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth.
9. Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a'm hwyneb tua'r ddaear.