11. Yna y dywedodd Daniel wrth Melsar, yr hwn a osodasai y pen‐ystafellydd ar Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia,
12. Prawf, atolwg, dy weision ddeg diwrnod, a rhoddant i ni ffa i'w bwyta, a dwfr i'w yfed.
13. Yna edrycher ger dy fron di ein gwedd ni, a gwedd y bechgyn sydd yn bwyta rhan o fwyd y brenin: ac fel y gwelych, gwna â'th weision.
14. Ac efe a wrandawodd arnynt yn y peth hyn, ac a'u profodd hwynt ddeg o ddyddiau.
15. Ac ymhen y deng niwrnod y gwelid eu gwedd hwynt yn decach, ac yn dewach o gnawd, na'r holl fechgyn oedd yn bwyta rhan o fwyd y brenin.
16. Felly Melsar a gymerodd ymaith ran eu bwyd hwynt, a'r gwin a yfent; ac a roddes iddynt ffa.
17. A'r bechgyn hynny ill pedwar, Duw a roddes iddynt wybodaeth a deall ym mhob dysg a doethineb: a Daniel a hyfforddiodd efe ym mhob gweledigaeth a breuddwydion.
18. Ac ymhen y dyddiau y dywedasai y brenin am eu dwyn hwynt i mewn, yna y pen‐ystafellydd a'u dug hwynt gerbron Nebuchodonosor.
19. A'r brenin a chwedleuodd â hwynt; ac ni chafwyd ohonynt oll un fel Daniel, Hananeia, Misael, ac Asareia: am hynny y safasant hwy gerbron y brenin.
20. Ac ym mhob rhyw ddoethineb a deall a'r a ofynnai y brenin iddynt, efe a'u cafodd hwynt yn ddeg gwell na'r holl ddewiniaid a'r astronomyddion oedd o fewn ei holl frenhiniaeth ef.