7. A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.
8. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.
9. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm braster, â'r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
10. A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
11. Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm melystra, ac â'm ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?
12. Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
13. A'r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â'm melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
14. Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
15. A'r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o'r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.
16. Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â'i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:
17. (Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a'ch gwaredodd chwi o law Midian:
18. A chwithau a gyfodasoch yn erbyn tŷ fy nhad i heddiw, ac a laddasoch ei feibion ef, sef dengwr a thrigain, ar un garreg, ac a osodasoch Abimelech, mab ei lawforwyn ef, yn frenin ar wŷr Sichem, oherwydd ei fod ef yn frawd i chwi:)
19. Gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch â Jerwbbaal, ac â'i dŷ ef, y dydd hwn; llawenychwch yn Abimelech, a llawenyched yntau ynoch chwithau: