6. A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.
7. A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.
8. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.
9. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm braster, â'r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
10. A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
11. Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm melystra, ac â'm ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?
12. Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.
13. A'r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â'm melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?
14. Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.