Hen Destament

Testament Newydd

Barnwyr 9:1-17 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ac Abimelech mab Jerwbbaal a aeth i Sichem, at frodyr ei fam, ac a ymddiddanodd â hwynt, ac â holl dylwyth tŷ tad ei fam, gan ddywedyd,

2. Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a'ch cnawd chwi ydwyf fi.

3. A brodyr ei fam a ddywedasant amdano ef, lle y clybu holl wŷr Sichem, yr holl eiriau hyn: a'u calonnau hwynt a drodd ar ôl Abimelech; canys dywedasant, Ein brawd ni yw efe.

4. A rhoddasant iddo ddeg a thrigain o arian o dŷ Baal‐berith: ac Abimelech a gyflogodd â hwynt oferwyr gwamal, y rhai a aethant ar ei ôl ef.

5. Ac efe a ddaeth i dŷ ei dad i Offra, ac a laddodd ei frodyr, meibion Jerwbbaal, y rhai oedd ddengwr a thrigain, ar un garreg: ond Jotham, mab ieuangaf Jerwbbaal, a adawyd; canys efe a ymguddiasai.

6. A holl wŷr Sichem a holl dŷ Milo a ymgasglasant, ac a aethant, ac a urddasant Abimelech yn frenin, wrth ddyffryn y golofn yr hwn sydd yn Sichem.

7. A phan fynegasant hynny i Jotham, efe a aeth ac a safodd ar ben mynydd Garisim, ac a ddyrchafodd ei lef, ac a waeddodd, dywedodd hefyd wrthynt, Gwrandewch arnaf fi, O wŷr Sichem, fel y gwrandawo Duw arnoch chwithau.

8. Y prennau gan fyned a aethant i eneinio brenin arnynt; a dywedasant wrth yr olewydden, Teyrnasa arnom ni.

9. Ond yr olewydden a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm braster, â'r hwn trwof fi yr anrhydeddant Dduw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

10. A'r prennau a ddywedasant wrth y ffigysbren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

11. Ond y ffigysbren a ddywedodd wrthynt, A ymadawaf fi â'm melystra, ac â'm ffrwyth da, ac a af fi i lywodraethu ar y prennau eraill?

12. Yna y prennau a ddywedasant wrth y winwydden, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

13. A'r winwydden a ddywedodd wrthynt hwy, A ymadawaf fi â'm melyswin, yr hwn sydd yn llawenhau Duw a dyn, a myned i lywodraethu ar y prennau eraill?

14. Yna yr holl brennau a ddywedasant wrth y fiaren, Tyred di, teyrnasa arnom ni.

15. A'r fiaren a ddywedodd wrth y prennau, Os mewn gwirionedd yr eneiniwch fi yn frenin arnoch, deuwch ac ymddiriedwch yn fy nghysgod i: ac onid e, eled tân allan o'r fiaren, ac ysed gedrwydd Libanus.

16. Yn awr gan hynny, os mewn gwirionedd a phurdeb y gwnaethoch, yn gosod Abimelech yn frenin, ac os gwnaethoch yn dda â Jerwbbaal, ac â'i dŷ, ac os yn ôl haeddedigaeth ei ddwylo y gwnaethoch iddo:

17. (Canys fy nhad a ymladdodd drosoch chwi, ac a anturiodd ei einioes ymhell, ac a'ch gwaredodd chwi o law Midian:

Darllenwch bennod gyflawn Barnwyr 9