Felly efe a ddygodd y bobl i waered at y dyfroedd. A dywedodd yr Arglwydd wrth Gedeon, Pob un a lepio â'i dafod o'r dwfr fel y llepio ci, gosod ef o'r neilltu; a phob un a ymgrymo ar ei liniau i yfed.