33. Yna y Midianiaid oll, a'r Amaleciaid, a meibion y dwyrain, a gasglwyd ynghyd, ac a aethant drosodd, ac a wersyllasant yn nyffryn Jesreel.
34. Ond ysbryd yr Arglwydd a ddaeth ar Gedeon; ac efe a utganodd mewn utgorn, ac Abieser a aeth ar ei ôl ef.
35. Ac efe a anfonodd genhadau trwy holl Manasse, yr hwn hefyd a'i canlynodd ef: anfonodd hefyd genhadau i Aser, ac i Sabulon, ac i Nafftali; a hwy a ddaethant i fyny i'w cyfarfod hwynt.
36. A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, O gwaredi di Israel trwy fy llaw i, megis y lleferaist;
37. Wele fi yn gosod cnu o wlân yn y llawr dyrnu: os gwlith a fydd ar y cnu yn unig, a sychder ar yr holl ddaear; yna y caf wybod y gwaredi di Israel trwy fy llaw i, fel y lleferaist.
38. Ac felly y bu: canys cyfododd yn fore drannoeth, ac a sypiodd y cnu ynghyd, ac a wasgodd wlith o'r cnu, lonaid ffiol o ddwfr.
39. A Gedeon a ddywedodd wrth Dduw, Na lidied dy ddicllonedd i'm herbyn, a mi a lefaraf unwaith eto. Profaf yn awr, y waith hon yn unig, trwy'r cnu: bydded, atolwg, sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear bydded gwlith.
40. A Duw a wnaeth felly y noson honno: canys yr oedd sychder ar y cnu yn unig, ac ar yr holl ddaear yr oedd gwlith.